WELSH SUMMER OPEN 2023:
Days Hrs Mins Secs

22 October 2024

Weightlifting and Para Powerlifting included in the list of sports for the 2026 Commonwealth Games

The Commonwealth Games returns to Glasgow. An announcement on behalf of Team Wales.

The Commonwealth Games Federation has announced the 2026 Games will return to Scotland, 12 years since the city hosted the multi-sport event in 2014. 

Commonwealth Games Scotland proposed an innovative approach with no public funding, capitalising on the established facilities already in place, following the success of the Glasgow 2014 Commonwealth Games, which was the largest multi-sport event ever held in Scotland with nearly 5000 athletes across 71 nations and territories.

The Games will be funded by Commonwealth Games Federation investment, and the Australian Commonwealth Games Association have promised a multi-million-pound investment to bridge any financial shortfall. 

Scotland have planned a viable alternative to the 2026 Games and will introduce a refreshed look for the multi-sport event. The Commonwealth Games Federation, together with Commonwealth Games Scotland have focused on creating a collaborative and sustainable model, with minimal cost, and reducing the environmental footprint. 

The sports confirmed are Athletics and Para Athletics, Swimming and Para Swimming, 3 x 3 Basketball and 3 x 3 Wheelchair Basketball, Boxing, Track Cycling and Para Track Cycling, Artistic Gymnastics, Judo, Bowls and Para Bowls, Weightlifting and Para Powerlifting, and Netball. 

Chair of Commonwealth Games Wales, Gareth Davies said "It’s great news that Glasgow has been confirmed as the next host for the Games. We know they can deliver a Games to an exceptional standard, and whilst they have less than 2 years to put things in place, we are extremely supportive of the announcement, and we look forward to working with Commonwealth Games Scotland in the run up to the 2026 Games. It is of course disappointing for the sports not included in the ’26 Games, but we will ensure there is constant communication between us and all of our member sports as we head into Glasgow and the Games that follow. Our immediate focus is on the next 18 months, and we will have a dedicated team of staff, support staff and volunteers who will be the driving force in ensuring Team Wales once again delivers on the world stage."

Rebecca Edwards-Symmons, CGW CEO added "For us and all the CGA’s we have been waiting on this news for some time, so having this announcement today is certainly a positive step towards the Games, and we as Team Wales can’t wait to get started on the planning. 

I wasn’t in post for the Glasgow 2014 Games, but from a spectator’s perspective it was outstanding, and from all the positive talk around the next Games, and what Scotland is capable of delivering in 2026 is both exciting and a driving force for all CGA’s to be part of a special journey towards delivering a strong team to the Games. 

There’s a lot of work ahead of us now, but we can’t wait to get plans in place and take our team to the Games."

Chair of Weightlifting Wales Joanne Calvino adds the below comment to the excitement of this announcement for Weightlifting Wales: 

'Weightlifting Wales are delighted with the announcement of Glasgow hosting the 2026 edition of the Commonwealth Games, but the fact both weightlifting and para powerlifting remains within the programme.

The Games are essential to the participation and motivation of Welsh athletes and for some, a stepping stone onto the global stage. 

We are delighted to be returning to Glasgow, who delivered a fantastic Games back in 2014, and the ability for our athletes to attend a Games close to their doorstep. 

The work now begins with the IWF & CWF to establish the qualification process and timelines so that both Team Wales and Weightlifting Wales can agree on the selection policies for lifters as quickly as possible.'


 

Mae Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad wedi cyhoeddi y bydd Gemau 2026 yn dychwelyd i'r Alban, 12 mlynedd ers i'r ddinas gynnal y digwyddiad aml-gamp yn 2014. 

Cynigiodd Commonwealth Games Scotland ddull arloesol heb unrhyw arian cyhoeddus, gan fanteisio ar y cyfleusterau sydd yno eisoes, a dilyn llwyddiant Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2014, sef y digwyddiad aml-gamp mwyaf erioed yn yr Alban gyda bron i 5000 o athletwyr ar draws 71 o wledydd a thiriogaethau. 

Bydd y Gemau'n cael eu hariannu gan fuddsoddiad Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, ac mae Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad Awstralia wedi addo buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i bontio unrhyw ddiffyg ariannol. 

Mae'r Alban wedi cynllunio dewis gwahanol hyfyw ar gyfer Gemau 2026 a bydd yn cyflwyno gwedd newydd ar gyfer y digwyddiad aml-gamp. Mae Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, ynghyd â Commonwealth Games Scotland, wedi canolbwyntio ar greu model cydweithredol a chynaliadwy, gyda cyn lleied o gost â phosibl, a lleihau'r ôl troed amgylcheddol. 

Nid yw'r amserlen chwaraeon wedi'i chwblhau eto ond yn sicr bydd yn llai na Birmingham 2022, ac er bod y Gemau olaf yn ninas yr Alban wedi cynnal 18 o gampau, bydd model newydd Gemau'r Gymanwlad dipyn yn llai, gan lunio dyfodol y Gemau. 

Y campau a gadarnhawyd yw Athletau a Phara Athletau, Nofio a phara Nofio, Pêl-fasged 3 x 3 a para-Pêl fasged cadair olwyn, Bocsio, Beicio Trac a phara Beicio, Gymnasteg artistig, Jiwdo, Bowlio a phara Bowlio, Codi Pwysau a phara-codi pŵer, a phêl-rwyd. 

Dywedodd Cadeirydd Gemau'r Gymanwlad Cymru, Gareth Davies "Mae'n newyddion gwych bod Glasgow wedi’i gadarnhau fel lleoliad nesaf y Gemau. Rydym yn gwybod y gallan nhw gyflwyno Gemau i safon eithriadol, ac er bod ganddyn nhw lai na 2 flynedd i roi pethau ar waith, rydym yn hynod o gefnogol i'r cyhoeddiad, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Commonwealth Games Scotland yn y cyfnod cyn Gemau 2026. Mae'n siomedig wrth gwrs i'r campau sydd ddim wedi eu cynnwys yng Ngemau '26, ond byddwn yn sicrhau bod cyfathrebu cyson rhyngom ni a'n holl gampau sy'n aelodau wrth i ni fynd i Glasgow a'r Gemau sy'n dilyn. Rydym yn canolbwyntio’n nawr ar y 18 mis nesaf, a bydd gennym dîm ymroddedig o staff, staff cymorth a gwirfoddolwyr a fydd yn sbardun i sicrhau bod Tîm Cymru unwaith eto'n cyflawni ar lwyfan y byd."

Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru "Rydym ni a holl Gymdeithasau Gemau’r Gymanwlad wedi bod yn aros am y newyddion yma ers peth amser, felly mae cael y cyhoeddiad yma heddiw yn sicr yn gam cadarnhaol tuag at y Gemau, ac allwn ni fel Tîm Cymru ddim aros i ddechrau ar y gwaith cynllunio.

Doeddwn i ddim yn y swydd ar gyfer Gemau Glasgow 2014, ond o safbwynt gwyliwr roedd yn rhagorol, ac o'r holl siarad cadarnhaol am y Gemau nesaf, a'r hyn y mae'r Alban yn gallu ei gyflawni, mae 2026 yn gyffrous ac yn sbardun i bob Cymdeithas Gemau’r Gymanwlad fod yn rhan o daith arbennig tuag at gyflwyno tîm cryf i'r Gemau. 

Mae llawer o waith o'n blaenau ni nawr, ond allwn ni ddim aros i gael cynlluniau ar waith a mynd â'n tîm i'r Gemau."