Yn Gryfach Gyda’n Gilydd
Enghraifft wych o'r hyn all ddigwydd pan fyddwch chi'n creu'r amgylchedd cywir.
Ledled gogledd Cymru, mae sesiynau fel hyn wedi bod yn dod â merched 11–16 oed i’r gampfa, a llawer ohonyn nhw am y tro cyntaf, gan eu helpu i feithrin hyder, dysgu sgiliau newydd, a mwynhau bod yn egnïol gyda’i gilydd.
Mae’r sesiynau, a gyflwynir gan hyfforddwyr angerddol fel Holly yn New Wave Weightlifting, yn hwyl, yn groesawgar ac wedi'u cynllunio gan y merched eu hunain. Gan ddechrau gyda gemau a chyflwyno hyfforddiant cryfder yn raddol, gan gynnwys codi pwysau Olympaidd, mae'r grŵp wedi tyfu'n gyflym o ran hyder a gallu.
Mae wedi bod yn wych gweld:
• Merched yn dychwelyd wythnos ar ôl wythnos
• Cyfeillgarwch newydd yn ffurfio
• Mwy o hyder a pharodrwydd i roi cynnig ar rywbeth newydd
• Rhai’n symud ymlaen i sesiynau clwb rheolaidd a hyd yn oed i gystadlaethau
I lawer, mae hyn wedi agor y drws i gyfleoedd na fyddai, o bosib, wedi bod ar gael iddyn nhw fel arall, gan eu helpu i deimlo'n rhan o gymuned ehangach a dangos yr hyn maen nhw’n gallu ei wneud.
Mae'r gwaith hwn wedi bod yn bosibl diolch i Gronfa Arloesi Gogledd Cymru Actif. Dyma enghraifft wych o bartneriaeth sy’n cefnogi dulliau newydd a chyrraedd mwy o bobl ifanc.
Ochr yn ochr â'r ddarpariaeth, casglwyd safbwyntiau mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor. Caiff y data eu dadansoddi ar hyn o bryd i helpu i lunio rhaglenni'r dyfodol ac i adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd.
Diolch yn fawr iawn i'r holl hyfforddwyr, clybiau, gwirfoddolwyr a phartneriaid a helpodd i wireddu hyn i gyd.