Lansio Strategaeth Codi Pwysau Cymru 2026 – 2030: Codi Cenedl
Mae Codi Pwysau Cymru wedi lansio strategaeth newydd, sy’n dangos cyfeiriad clir i’r gamp, gan gynnwys perfformiad, cyfranogaeth, llywodraethiant ac effaith gymunedol.
Mae Strategaeth 2026 - 2030 Codi Pwysau Cymru yn deillio o drafodaethau maith gydag aelodau, staff, aelodau’r bwrdd a phartneriaid allweddol. Mae’n adlewyrchu nod y sefydliad i ddatblygu’r gamp o godi pwysau a chodi pŵer para gan ddefnyddio gwerthoedd a rhaglenni cymunedol i gyfrannu’n ystyrlon at iechyd a llesiant y genedl.
Wedi’i strwythuro o amgylch pedair blaenoriaeth strategol:
- Ymgysylltu’r Gymuned Codi Pwysau
- Adeiladu Pencampwyr
- Dod â Phobl at ei Gilydd
- Arwain Sefydliad Cynaliadwy ac wedi’i Lywodraethu’n Dda
Mae’r strategaeth yn cyflwyno agwedd gydweithredol. O glybiau a datblygiad gwirfoddolwyr i lwybrau athletwyr, perfformiad, digwyddiadau a diogelu, mae pob rhan o’r sefydliad yn cyd-fynd i gyflawni’r blaenoriaethau tymor hir hyn.
Mae’r strategaeth yn nodi bod Codi Pwysau Cymru bellach yn Gwmni Buddiant Cymunedol, sy’n atgyfnerthu ei ymrwymiad i gyfleu gwerth cymdeithasol drwy chwaraeon. Bydd strwythur y cwmni buddiant cymunedol yn cyfoethogi potensial y sefydliad i dderbyn cyllid newydd, ffurfio partneriaethau ystyrlon a pharhau gyda’i nod o wneud y gamp yn hygyrch ac yn gynhwysol i bobl o bob oed a chefndir.
Dywed y Prif Swyddog Gweithredu, Simon Roach:
“Mae’r strategaeth yn dod â phopeth at ei gilydd. Mae’n adnabod pwysigrwydd perfformiad a chyfranogaeth, wrth ddangos sut gall codi pwysau effeithio’n gadarnhaol ar iechyd, cynhwysiant a chydlyniad cymunedol. Mae hefyd yn rhoi sylfaen cryf i adeiladu partneriaethau, tyfu’r gamp yn gynaliadwy a sicrhau bod ein gwaith o fudd i bobl ac i gymunedau ar draws Cymru.”
Ychwanegodd y Cadeirydd, Jo Calvino:
“Dwi’n edrych ymlaen at gyflwyno cynllun strategol newydd Codi Pwysau Cymru; mae hyn wedi bod yn broses hynod drylwyr gyda’r staff a’r bwrdd, gydag adolygiad llawn o’n llwyddiannau blaenorol a sut rydym yn parhau i adeiladu ac i dyfu cenedl gref o’r cymunedol i’r perfformiad.
Mae’n hollbwysig cydnabod y newidiadau ym myd chwaraeon a mynd ati drwy ein gwaith i gael effaith fwy ar bob lefel. Mae’r bwrdd a’r staff yn edrych ymlaen at y pedair blynedd nesaf, gan barhau i gefnogi’r gwaith gwych mae ein clwb a’n rhaglenni cymunedol yn dal i’w gynnig, yn ogystal â’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.”
Y prif dargedau a amlinellwyd yn y strategaeth:
- Tyfu niferoedd y clybiau, hyfforddwyr a swyddogion technegol
- Cefnogi athletwyr drwy lwybrau perfformiad strwythuredig
- Cynnig rhaglenni cymunedol cynhwysol ledled Cymru
- Cynyddu cyfleoedd cystadlaethau i bob gallu ac oedran
- Cryfhau llywodraethiant, diogelu a gwydnwch ariannol
- Sefydlu partneriaethau newydd i wella cyflenwad a chynaliadwyedd hir dymor
Mae Codi Pwysau Cymru yn croesawu cefnogaeth partneriaid, cyllidwyr, clybiau ac unigolion wrth ddechrau’r bennod newydd hon.
Mae’r strategaeth lawn ar gael yma:
HERE
Mae crynodeb un dudalen ar gael yma:
HERE
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
admin@weightlifting.wales
www.weightlifting.wales